Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 22 Mehefin 2022

Amser y cyfarfod: 13.30
 


80(v3)  

------

<AI1>

Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI3>

<AI4>

3       Cwestiynau Amserol

(0 munud)

Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol

</AI4>

<AI5>

4       Datganiadau 90 Eiliad

(5 munud)

</AI5>

<AI6>

5       Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Pedwerydd Adroddiad i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9

(15 munud)

NDM8034 Vikki Howells (Cwm Cynon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Pedwerydd adroddiad i'r Chweched Senedd a osodwyd gerbron y Senedd ar 15 Mehefin 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9

2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.

</AI6>

<AI7>

6       Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Grymuso cymunedau

(60 munud)

NNDM8018 Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod Cymru'n gartref i filoedd o grwpiau cymunedol lleol, gyda channoedd yn rhedeg asedau sylweddol sy'n gwneud eu cymunedau'n lleoedd gwell i fyw ynddynt.

2. Yn cydnabod y cyfraniad enfawr y mae grwpiau cymunedol wedi'i wneud o ran cefnogi pobl leol drwy heriau'r pandemig.

3. Yn nodi bod Llywodraeth flaenorol Cymru wedi cytuno ag argymhelliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y dylai "ddatblygu rhaglen o rymuso cymunedau ledled Cymru gyda’r sector gwirfoddol, gan weithredu fel gwladwriaeth alluogi ar gyfer gweithredu cymunedol".

 4. Yn nodi'r rôl bwysig y mae awdurdodau lleol yn aml yn ei chwarae o ran sicrhau perchnogaeth gymunedol ar asedau, a gweithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill i sicrhau menter gymunedol lwyddiannus.

5. Yn nodi adroddiad diweddar y Sefydliad Materion Cymreig, Ein Tir: Cymunedau a Defnyddio Tir, a ganfu mai cymunedau Cymru yw'r rhai lleiaf grymus ym Mhrydain ac sy'n galw am ad-drefnu sylweddol ym maes polisi cymunedol yng Nghymru.

6. Yn nodi ymhellach adroddiad diweddar Canolfan Cydweithredol Cymru, Tir ac asedau sy’n eiddo i’r gymuned: galluogi cyflawni tai fforddiadwy a arweinir gan y gymuned yng Nghymru.

7. Yn nodi nad oes gan Gymru, yn wahanol i'r Alban a Lloegr, unrhyw ddeddfwriaeth sy'n rhoi'r hawl i gymunedau brynu asedau lleol o werth cymunedol.

8. Yn credu bod galluogi grwpiau cymunedol i gadw adeiladau a thir lleol fel cyfleusterau cymunedol a'u cefnogi i ddatblygu cymunedau gweithgar ac ymgysylltiedig yn allweddol i adeiladu Cymru fwy ffyniannus, cyfartal a gwyrddach.

9. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cydweithio i greu strategaeth cymunedau i ddatblygu gwladwriaeth sy'n galluogi gweithredu cymunedol;

b) edrych i mewn i'r opsiynau cyfreithiol ar gyfer sefydlu hawl gymunedol i brynu yng Nghymru.

Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Effaith COVID-19 ar y sector gwirfoddol 

Ein Tir: Cymunedau a Defnyddio Tir

Tir ac asedau sy’n eiddo i’r gymuned: galluogi cyflawni tai fforddiadwy a arweinir gan y gymuned yng Nghymru

Cyd-gyflwynwyr

Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru)

Buffy Williams (Rhondda)

Cefnogwyr

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)

Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)

Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Huw Irranca-Davies (Ogwr)

Janet Finch-Saunders (Aberconwy)

Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Joel James (Canol De Cymru)

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru)

Rhys ab Owen (Canol De Cymru)

Sam Rowlands (Gogledd Cymru)

Sarah Murphy (Pen-y-Bont ar Ogwr)

Sioned Williams (Gorllewin De Cymru)

</AI7>

<AI8>

7       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Adroddiad Blynyddol ar Cyfoeth Naturiol Cymru

(30 munud)

NDM8032 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Adroddiad Blynyddol ar Cyfoeth Naturiol Cymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mawrth 2022.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mehefin 2022.

</AI8>

<AI9>

8       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Y rhwydwaith trafnidiaeth

(60 munud)

NDM8033 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu nad yw rhwydwaith trafnidiaeth Cymru yn addas i'r diben.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1.    Yn credu bod Llwybr Newydd yn strategaeth drafnidiaeth i Gymru sy’n briodol ar gyfer wynebu’r argyfwng hinsawdd.

2.    Yn galw ar Lywodraeth y DU i roi cyllid digonol i Gymru fel y gall fuddsoddi yn y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus.

Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth Cymru 2021

Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylid datganoli seilwaith rheilffyrdd i sicrhau bod Cymru'n cael ei chyfran deg o brosiectau fel HS2.

</AI9>

<AI10>

9       Cyfnod Pleidleisio

 

</AI10>

<AI11>

10    Dadl Fer

(30 munud)

NDM8030 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Gwahardd o'r ysgol: mwy o niwed nag o les?

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 28 Mehefin 2022

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>